Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Ionawr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4899
------
Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad Brenhinol y diwrnod hwnnw.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4, a 6-10. Cafodd cwestiynau 6 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiynau 3 a 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gofynnwyd y 6 chwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn Helyg yn y dyfodol?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio):
Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio?
Dechreuodd yr eitem am 16.01
Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad i nodi 40 mlwyddiant Cymorth i Ferched Cymru.
Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad ar Wasanaeth Coffa’r Holocost y Sipsiwn a Theithwyr.
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM6632 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.43
NDM6634 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6631 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
27 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;
b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Llywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a
c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn ffordd fwy cymesur.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
1 |
43 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2: Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.
2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.
3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.
4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6631 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.
2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.
3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.
4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
6 |
15 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.48
Dechreuodd yr eitem am 18.51
NDM6633 Sian Gwenllian (Arfon)
Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd?
Daeth y cyfarfod i ben am 19.14
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2018